SL(5)380 – Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Cefndir a Phwrpas

Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi, er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.  Maent yn diwygio is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru, ym maes marchnata bwyd, labelu bwyd, dosbarthiad bwyd a mesurau cysylltiedig eraill.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, i ddiweddaru cyfeiriadau at offerynnau penodol yr UE yn Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011.

Gweithdrefn

Gadarnhaol

Craffu Technegol

Nodwyd y pwynt canlynol i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2(vi) (drafftio diffygiol) mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Mae paragraff olaf y rhagymadrodd i’r Rheoliadau yn cyfeirio at adran 59(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.  Mae’r ddarpariaeth honno yn gymwys i offerynnau statudol nad ydynt wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad, y mae’r weithdrefn negyddol felly’n gymwys iddynt.  Gan fod drafft o’r Rheoliadau hyn wedi’i osod i’w gymeradwyo o dan y weithdrefn gadarnhaol, nid yw adran 59(3) yn berthnasol.  Fodd bynnag, nid yw cyfeirio at ddarpariaeth sy’n ddiangen yn effeithio dilysrwydd yr offeryn na’r newidiadau o sylwedd a wneir gan y Rheoliadau, felly nid oes angen cywiriad.

Craffu ar rinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

8 Mawrth 2019